13 Pan wnaeth Duw addewid i Abraham aeth ar ei lw y byddai'n gwneud beth oedd wedi ei addo. Rhoddodd ei gymeriad ei hun ar y lein! – doedd neb mwy iddo allu tyngu llw iddo!
14 A dyma ddwedodd e: “Dw i'n addo dy fendithio di a rhoi llawer iawn o ddisgynyddion i ti.”
15 Ac felly, ar ôl disgwyl yn amyneddgar dyma Abraham yn derbyn beth roedd Duw wedi ei addo iddo.
16 Pan mae pobl yn tyngu llw maen nhw'n gofyn i rywun mwy na nhw eu hunain wneud yn siŵr eu bod yn gwneud beth maen nhw'n ei addo. Mae'r llw yn eu rhwymo nhw i wneud beth maen nhw wedi ei ddweud, ac yn rhoi diwedd ar bob dadl.
17 Am fod Duw am i bobl wybod ei fod e ddim yn newid ei feddwl ac y byddai'n gwneud beth roedd wedi ei addo iddyn nhw, rhwymodd ei hun gyda llw.
18 Felly mae Duw wedi addo, ac mae wedi mynd ar ei lw – dau beth fydd byth yn newid am ei bod yn amhosib i Dduw ddweud celwydd. Felly, dŷn ni sydd wedi dianc ato yn gallu bod yn hyderus. Dŷn ni'n gallu dal gafael yn y gobaith mae wedi ei roi i ni.
19 Mae'r gobaith hwn yn obaith sicr – mae fel angor i'n bywydau ni, yn gwbl ddiogel. Mae Iesu wedi mynd o'n blaenau ni, tu ôl i'r llen, i mewn i'r nefoedd, sef y cysegr mewnol lle mae Duw.