1 Brenin Salem oedd Melchisedec, ac offeiriad i'r Duw Goruchaf. Pan oedd Abraham ar ei ffordd adre ar ôl gorchfygu nifer o frenhinoedd mewn brwydr, daeth Melchisedec ato. Dyma Melchisedec yn bendithio Abraham,
2 a dyma Abraham wedyn yn rhoi un rhan o ddeg o'r cwbl oedd wedi ei ennill i Melchisedec.Ystyr Melchisedec ydy ‛y brenin cyfiawn‛; ac mae'n ‛frenin heddwch‛ hefyd, am mai dyna ydy ystyr ‛Brenin Salem‛.
3 Dŷn ni ddim yn gwybod pwy oedd ei dad a'i fam, a does dim sôn am ei achau na dyddiad ei eni na'i farw. Felly, mae fel darlun o Fab Duw, sy'n aros yn offeiriad am byth.
4 Meddyliwch mor bwysig oedd Melchisedec! Rhoddodd hyd yn oed Abraham, tad ein cenedl ni, un rhan o ddeg o beth oedd wedi ei ennill yn y frwydr iddo!