15 Ac mae beth dŷn ni'n ei ddweud yn gliriach fyth pan ddeallwn ni fod yr offeiriad newydd yn debyg i Melchisedec.
16 Ddaeth hwn ddim yn offeiriad am fod y rheolau yn dweud hynny (am ei fod yn perthyn i lwyth arbennig). Na, ond am fod nerth y bywyd na ellir ei ddinistrio ynddo.
17 A dyna mae'r salmydd yn ei ddweud: “Rwyt ti'n offeiriad am byth, yr un fath â Melchisedec.”
18 Felly mae'r drefn gyntaf yn cael ei rhoi o'r neilltu am ei bod yn methu gwneud beth oedd ei angen.
19 Wnaeth y Gyfraith Iddewig wneud dim byd yn berffaith. Ond mae gobaith gwell wedi ei roi i ni yn ei lle. A dyna sut dŷn ni'n mynd at Dduw bellach.
20 Ac wrth gwrs, roedd Duw wedi mynd ar lw y byddai'n gwneud hyn! Pan oedd eraill yn cael eu gwneud yn offeiriaid doedd dim sôn am unrhyw lw,
21 ond pan ddaeth Iesu yn offeiriad dyma Duw yn tyngu llw. Dwedodd wrtho: “Mae'r Arglwydd wedi tyngu llw a fydd e ddim yn newid ei feddwl: ‘Rwyt ti yn offeiriad am byth.’”