17 A dyna mae'r salmydd yn ei ddweud: “Rwyt ti'n offeiriad am byth, yr un fath â Melchisedec.”
18 Felly mae'r drefn gyntaf yn cael ei rhoi o'r neilltu am ei bod yn methu gwneud beth oedd ei angen.
19 Wnaeth y Gyfraith Iddewig wneud dim byd yn berffaith. Ond mae gobaith gwell wedi ei roi i ni yn ei lle. A dyna sut dŷn ni'n mynd at Dduw bellach.
20 Ac wrth gwrs, roedd Duw wedi mynd ar lw y byddai'n gwneud hyn! Pan oedd eraill yn cael eu gwneud yn offeiriaid doedd dim sôn am unrhyw lw,
21 ond pan ddaeth Iesu yn offeiriad dyma Duw yn tyngu llw. Dwedodd wrtho: “Mae'r Arglwydd wedi tyngu llw a fydd e ddim yn newid ei feddwl: ‘Rwyt ti yn offeiriad am byth.’”
22 Mae hyn yn dangos fod yr ymrwymiad newydd mae Iesu'n warant ohono gymaint gwell na'r hen un.
23 Hefyd, dan yr hen drefn roedd llawer iawn o offeiriaid. Roedd pob un ohonyn nhw'n marw, ac wedyn roedd rhaid i rywun arall gymryd y gwaith drosodd!