2 a dyma Abraham wedyn yn rhoi un rhan o ddeg o'r cwbl oedd wedi ei ennill i Melchisedec.Ystyr Melchisedec ydy ‛y brenin cyfiawn‛; ac mae'n ‛frenin heddwch‛ hefyd, am mai dyna ydy ystyr ‛Brenin Salem‛.
3 Dŷn ni ddim yn gwybod pwy oedd ei dad a'i fam, a does dim sôn am ei achau na dyddiad ei eni na'i farw. Felly, mae fel darlun o Fab Duw, sy'n aros yn offeiriad am byth.
4 Meddyliwch mor bwysig oedd Melchisedec! Rhoddodd hyd yn oed Abraham, tad ein cenedl ni, un rhan o ddeg o beth oedd wedi ei ennill yn y frwydr iddo!
5 Dŷn ni'n gwybod fod y Gyfraith Iddewig yn dweud wrth yr offeiriaid, sy'n ddisgynyddion i Lefi, gasglu un rhan o ddeg o beth sydd gan y bobl. Ond cofiwch mai casglu maen nhw gan bobl eu cenedl eu hunain – disgynyddion Abraham.
6 Doedd Melchisedec ddim yn perthyn i Lefi, ac eto rhoddodd Abraham un rhan o ddeg iddo. A Melchisedec fendithiodd Abraham, yr un oedd Duw wedi addo pethau mor fawr iddo.
7 Does dim rhaid dweud fod yr un sy'n bendithio yn fwy na'r person sy'n derbyn y fendith.
8 Yn achos yr offeiriaid Iddewig, mae'r un rhan o ddeg yn cael ei gasglu gan ddynion sy'n siŵr o farw; ond yn achos Melchisedec mae'n cael ei gasglu gan un maen nhw'n dweud sy'n fyw!