8 Yn achos yr offeiriaid Iddewig, mae'r un rhan o ddeg yn cael ei gasglu gan ddynion sy'n siŵr o farw; ond yn achos Melchisedec mae'n cael ei gasglu gan un maen nhw'n dweud sy'n fyw!
9 Gallech chi hyd yn oed ddweud fod disgynyddion Lefi (sy'n casglu'r un rhan o ddeg), wedi talu un rhan o ddeg i Melchisedec drwy Abraham.
10 Er bod Lefi ddim wedi cael ei eni pan aeth Melchisedec allan i gyfarfod Abraham, roedd yr had y cafodd ei eni ohono yno, yng nghorff ei gyndad!
11 Mae'r Gyfraith Iddewig yn dibynnu ar waith yr offeiriaid sy'n perthyn i urdd Lefi. Os oedd y drefn offeiriadol hon yn cyflawni bwriadau Duw yn berffaith pam roedd angen i offeiriad arall ddod? Pam wnaeth Duw anfon un oedd yr un fath â Melchisedec yn hytrach nag un oedd yn perthyn i urdd Lefi ac Aaron?
12 Ac os ydy'r drefn offeiriadol yn newid, rhaid i'r gyfraith newid hefyd.
13 Mae'r un dŷn ni'n sôn amdano yn perthyn i lwyth gwahanol, a does neb o'r llwyth hwnnw wedi gwasanaethu fel offeiriad wrth yr allor erioed.
14 Mae pawb yn gwybod mai un o ddisgynyddion llwyth Jwda oedd ein Harglwydd ni, a wnaeth Moses ddim dweud fod gan y llwyth hwnnw unrhyw gysylltiad â'r offeiriadaeth!