10 ‘Dyma'r ymrwymiad fydda i'n ei wneud gyda phobl Israel bryd hynny,’ meddai'r Arglwydd: ‘Bydd fy neddfau'n glir yn eu meddyliau ac wedi eu hysgrifennu ar eu calonnau. Fi fydd eu Duw nhw, a nhw fydd fy mhobl i.
11 Fyddan nhw ddim yn gorfod dysgu pobl eraill, a dweud wrth ei gilydd, “Rhaid i ti ddod i nabod yr Arglwydd,” achos bydd pawb yn fy nabod i, o'r lleia i'r mwya.
12 Bydda i'n maddau iddyn nhw am y pethau wnaethon nhw o'i le, ac yn anghofio eu pechodau am byth.’”
13 Trwy ddefnyddio'r gair ‛newydd‛ i ddisgrifio'r ymrwymiad yma, mae Duw'n dweud fod y llall yn hen. Os ydy rhywbeth yn hen ac yn perthyn i'r oes o'r blaen, yn fuan iawn mae'n mynd i ddiflannu'n llwyr!