3 A chan fod rhaid i bob archoffeiriad gyflwyno rhoddion ac aberthau i Dduw, roedd rhaid i Iesu hefyd fod â rhywbeth ganddo i'w gyflwyno.
4 Petai'r gweini hwn yn digwydd ar y ddaear, fyddai Iesu ddim yn gallu bod yn offeiriad, am fod offeiriaid eisoes ar gael i gyflwyno'r rhoddion mae'r Gyfraith Iddewig yn eu gorchymyn.
5 Ond dim ond copi o'r ganolfan addoliad go iawn yn y nefoedd ydy'r cysegr maen nhw'n gweini ynddo. Dyna pam wnaeth Duw roi'r rhybudd hwn i Moses pan oedd yn bwriadu codi'r babell yn ganolfan addoliad: “Gwna'n siŵr dy fod yn gwneud popeth yn union fel mae yn y cynllun welaist ti ar y mynydd.”
6 Ond mae'r gwaith offeiriadol gafodd ei roi i Iesu yn llawer iawn pwysicach na'r gwaith maen nhw'n ei wneud fel offeiriaid. Ac mae'r ymrwymiad mae Iesu'n ganolwr iddo yn well na'r hen un – mae wedi ei wneud yn ‛gyfraith‛ sy'n addo pethau llawer gwell.
7 Petai'r drefn gyntaf wedi bod yn ddigonol fyddai dim angen un arall.
8 Ond roedd bai ar y bobl yng ngolwg Duw, a dyna pam ddwedodd e: “‘Mae'r amser yn dod,’ meddai'r Arglwydd, ‘pan fydda i'n gwneud ymrwymiad newydd gyda phobl Israel a Jwda.’
9 ‘Fydd hwn ddim yr un fath â'r un wnes i gyda'u hynafiaid (pan afaelais yn eu llaw a'u harwain allan o'r Aifft). Wnaethon nhw ddim cadw eu hochr nhw o'r cytundeb, felly dyma fi'n troi fy nghefn arnyn nhw,’ meddai'r Arglwydd.