1 Roedd gan yr ymrwymiad cyntaf reolau ar gyfer yr addoliad, a chysegr yn ganolfan i'r addoliad ar y ddaear.
2 Roedd dwy ystafell yn y babell. Yn yr ystafell allanol roedd y ganhwyllbren a hefyd y bwrdd gyda'r bara wedi ei gysegru arno – dyma oedd yn cael ei alw ‛Y Lle Sanctaidd‛.
3 Yna roedd llen, ac ystafell arall y tu ôl iddi, sef ‛Y Lle Mwyaf Sanctaidd‛.
4 Yn yr ystafell fewnol roedd allor yr arogldarth ac arch yr ymrwymiad (cist bren oedd wedi ei gorchuddio ag aur). Yn y gist roedd jar aur yn dal peth o'r manna o'r anialwch, hefyd ffon Aaron (sef yr un oedd wedi blaguro), a'r ddwy lechen roedd Duw wedi ysgrifennu'r Deg Gorchymyn arnyn nhw.