17 Dydy ewyllys ddim yn cael ei gweithredu nes i'r un wnaeth yr ewyllys farw – dydy'r eiddo ddim yn cael ei rannu pan mae e'n dal yn fyw!
18 Dyna pam roedd angen gwaed i hyd yn oed y drefn gyntaf gael ei gweithredu.
19 Ar ôl i Moses ddweud wrth y bobl beth oedd pob un o orchmynion Cyfraith Duw, defnyddiodd frigau isop wedi eu rhwymo gyda gwlân ysgarlad i daenellu dŵr a gwaed lloi a geifr ar y sgrôl o'r Gyfraith ac ar y bobl.
20 “Mae'r gwaed yma yn cadarnhau'r ymrwymiad mae Duw wedi ei wneud i chi ei gadw,” meddai wrthyn nhw.
21 Wedyn taenellodd y gwaed yr un fath ar y babell ac ar bopeth oedd yn cael ei ddefnyddio yn y seremonïau.
22 I ddweud y gwir, mae Cyfraith Moses yn dweud fod bron popeth i gael ei buro trwy gael ei daenellu â gwaed, a bod maddeuant ddim yn bosib heb i waed gael ei dywallt.
23 Roedd rhaid i'r pethau hynny i gyd gael eu puro gan waed yr aberthau. Ond dim ond copïau o'r pethau nefol ydyn nhw, ac mae angen aberthau gwell nag anifeiliaid i buro'r rheiny.