25 A wnaeth e ddim mynd i mewn i'r nefoedd lawer gwaith i offrymu ei hun (fel yr archoffeiriaid eraill oedd yn gorfod mynd â gwaed anifail i mewn i'r Lle Mwyaf Sanctaidd flwyddyn ar ôl blwyddyn).
26 Petai'n rhaid iddo wneud hynny, byddai wedi gorfod marw lawer gwaith ers i'r byd gael ei greu! Na! daeth y Meseia un waith ac am byth, yn agos at ddiwedd yr oesoedd, i ddelio gyda phechod drwy ei aberthu ei hun.
27 Yn union fel mae pawb yn mynd i farw un waith, a wynebu barn ar ôl hynny,
28 buodd y Meseia farw un waith yn aberth, a chario pechodau llawer iawn o bobl iddyn nhw gael eu maddau. A bydd yn dod yn ôl yr ail waith, dim i ddelio gyda phechod y tro hwn, ond i achub pawb sy'n disgwyl yn frwd amdano.