5 Yna uwchben y gist roedd dau greadur hardd wedi eu cerfio, a'u hadenydd yn cysgodi dros y caead – sef y man ble roedd Duw yn maddau pechodau.Ond does dim pwynt dechrau trafod hyn i gyd yn fanwl yma.
6 Gyda popeth wedi ei osod yn ei le, roedd yr offeiriaid yn mynd i mewn i'r ystafell allanol yn rheolaidd i wneud eu gwaith.
7 Ond dim ond yr archoffeiriad oedd yn mynd i mewn i'r ystafell fewnol, a hynny unwaith y flwyddyn yn unig. Ac roedd rhaid iddo fynd â gwaed gydag e, i'w gyflwyno i Dduw dros ei bechodau ei hun a hefyd y pechodau hynny roedd pobl wedi eu cyflawni heb sylweddoli eu bod nhw'n pechu.
8 Mae'r Ysbryd Glân yn dangos i ni drwy hyn bod hi ddim yn bosib mynd i mewn i'r Lle Mwyaf Sanctaidd (sef yr un nefol) tra roedd y babell gyntaf, a'r drefn mae'n ei chynrychioli, yn dal i sefyll.
9 Mae'n ddarlun sy'n dangos beth sy'n bwysig heddiw. Doedd y rhoddion a'r aberthau oedd yn cael eu cyflwyno dan yr hen drefn ddim yn gallu rhoi cydwybod glir i'r addolwr.
10 Dyn nhw ddim ond yn rheolau ynglŷn â gwahanol fathau o fwyd a diod a defodau golchi – pethau oedd ond yn berthnasol nes i'r drefn newydd gyrraedd.
11 Ond yna daeth y Meseia fel Archoffeiriad, a rhoi i ni'r holl bethau da dŷn ni eisoes wedi eu profi. Mae e wedi mynd drwy'r babell go iawn, sef yr un berffaith na chafodd ei gwneud gan bobl ac sydd ddim yn perthyn i'r byd hwn.