1 Oracl am Ninefe. Llyfr gweledigaeth Nahum o Elcos.
2 Duw eiddigeddus ac un sy'n dial yw'r ARGLWYDD;y mae'r ARGLWYDD yn dial ac yn llawn llid;y mae'r ARGLWYDD yn dial ar ei wrthwynebwyr,ac yn dal dig at ei elynion.
3 Y mae'r ARGLWYDD yn araf i ddigio ond yn fawr o nerth,ac nid yw'n gadael yr euog yn ddi-gosb.Y mae ei ffordd yn y corwynt a'r dymestl,a llwch ei draed yw'r cymylau.
4 Y mae'n ceryddu'r môr ac yn ei sychu,ac yn gwneud pob afon yn hesb;gwywa Basan a Charmel,a derfydd gwyrddlesni Lebanon.
5 Cryna'r mynyddoedd o'i flaen,a thodda'r bryniau;difrodir y ddaear o'i flaen,y byd a phopeth sy'n byw ynddo.
6 Pwy a saif o flaen ei lid?Pwy a ddeil gynddaredd ei ddig?Tywelltir ei lid fel tân,a dryllir y creigiau o'i flaen.
7 Y mae'r ARGLWYDD yn dda—yn amddiffynfa yn nydd argyfwng;y mae'n adnabod y rhai sy'n ymddiried ynddo.
8 Ond â llifeiriant ysgubol gwna ddiwedd llwyr ar ei wrthwynebwyr,ac fe ymlid ei elynion i'r tywyllwch.
9 Beth a gynlluniwch yn erbyn yr ARGLWYDD?Gwna ef ddiwedd llwyr,fel na ddaw blinder ddwywaith.
10 Fel perth o ddrain fe'u hysir,fel diotwyr â'u diod,fel sofl wedi sychu'n llwyr.
11 Ohonot ti, Ninefe, y daeth allan un yn cynllwyniodrygioni yn erbyn yr ARGLWYDD—cynghorwr dieflig.
12 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Er eu bod yn gyflawn a niferus,eto fe'u torrir i lawr, a darfyddant.Er imi dy flino,ni flinaf di mwyach.
13 Yn awr, fe ddrylliaf ei iau oddi arnat,a thorraf dy rwymau.”
14 Rhoes yr ARGLWYDD orchymyn amdanat:“Ni fydd had o'th hil mwyach;torraf ymaith ddelw ac eilun o dŷ dy dduwiau;a rhoddaf i ti fedd am dy fod yn ddirmygedig.”
15 Wele ar y mynyddoedd draed y negesyddyn cyhoeddi heddwch.Dathla dy wyliau, O Jwda,tâl dy addunedau,oherwydd ni ddaw'r dieflig i'th oresgyn byth eto;fe'i torrwyd ymaith yn llwyr.