Nahum 2 BCN

Cwymp Ninefe

1 Daeth dinistrydd i fyny yn dy erbyn;diogela'r amddiffynfa, gwylia'r ffordd,rhwyma dy wregys, a chasgla dy nerth ynghyd.

2 Y mae'r ARGLWYDD yn adfer gogoniant Jacob,a gogoniant Israel yr un modd,er i'r anrheithwyr eu difethaa dinoethi eu canghennau.

3 Y mae tarian ei ryfelwyr yn goch,a'r milwyr mewn ysgarlad,a'i gerbydau yn eu rhengoeddyn fflachio fel tân,a'r gwŷr meirch yn prancio.

4 Rhuthra'r cerbydau trwy'r strydoedd,a gweu trwy'i gilydd yn y mannau agored;fflachiant fel ffaglau,gwibiant fel mellt.

5 Gelwir y glewion i'r frwydr,baglant hwythau wrth ddod;brysiant at y mur,a pharatoir yr amddiffyn.

6 Agorir llifddorau'r afonydd,ac y mae'r plas mewn dychryn;

7 dygir y frenhines ymaith i gaethglud,a'i morynion yn galaru,yn cwyno fel colomennodac yn curo dwyfron.

8 Y mae Ninefe fel llyna'i ddyfroedd yn diflannu.“Aros! Aros!” meddant, ond nid yw neb yn troi'n ôl.

9 Ysbeiliwch yr arian! Ysbeiliwch yr aur!Nid oes terfyn ar y trysor,nac ar y cyfoeth o bethau dymunol.

10 Wedi ei hysbeilio, ei hanrheithio a'i dinoethi,pob calon yn toddi, pob glin yn gwegian,y lwynau'n crynu,ac wyneb pawb yn gwelwi!

11 Ple mae ffau'r llew ac ogof y llewod ifainc,cynefin y llew a'r llewes,lle triga'r cenawon heb eu tarfu?

12 Darniodd y llew ddigon i'w genawon,a lladd ar gyfer ei lewesau;llanwodd ei ogofeydd ag ysglyfaeth,a'i loches â'i raib.

13 “Wele fi yn dy erbyn,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.“Llosgaf dy ffau mewn mwg,ac ysa'r cleddyf dy genawon;torraf ymaith dy ysbail o'r tir,ac ni chlywir mwyach sôn am dy weithredoedd.”

Penodau

1 2 3