Nahum 3 BCN

Gwae Ninefe

1 Gwae'r ddinas waedlyd,sy'n dwyll i gyd,yn llawn anrhaitha heb derfyn ar ysbail!

2 Clec y chwip, trwst olwynion,meirch yn carlamu a cherbydau'n ysgytian,

3 marchogion yn ymosod,cleddyfau'n disgleirio, gwaywffyn yn fflachio.Llu o glwyfedigion,pentyrrau o gyrff,meirwon dirifedi—baglant dros y cyrff.

4 Y cyfan oherwydd puteindra mynych y butain,y deg ei phryd, meistres swynion,a dwyllodd genhedloedd â'i phuteindra,a phobloedd â'i swynion.

5 “Wele fi yn dy erbyn,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.“Codaf odre dy wisg at dy wyneb,a dangosaf dy noethni i'r cenhedloedd,a'th warth i'r teyrnasoedd.

6 Taflaf fudreddi drosot,gwaradwyddaf di a'th wneud yn sioe.

7 Yna bydd pob un a'th wêl yn cilio oddi wrthyt ac yn dweud,‘Difethwyd Ninefe, pwy a gydymdeimla â hi?’O ble y ceisiaf rai i'th gysuro?”

8 A wyt yn well na Thebes,sydd ar lannau'r Neil,gyda dŵr o'i hamgylch,y môr yn fur,a'r lli yn wrthglawdd iddi?

9 Ethiopia oedd ei chadernid,a'r Aifft hefyd, a hynny'n ddihysbydd;Put a Libya oedd ei chymorth.

10 Ond dygwyd hithau ymaith a'i chaethgludo;drylliwyd ei phlantos ar ben pob heol;bwriwyd coelbren am ei huchelwyr,a rhwymwyd ei mawrion â chadwynau.

11 Byddi dithau hefyd yn chwil a chuddiedig,ac yn ceisio noddfa rhag y gelyn.

12 Bydd dy holl amddiffynfeydd fel coed ffigysgyda'u ffigys cynnar aeddfed;pan ysgydwir hwy, syrthiant i geg y bwytawr.

13 Wele, gwragedd yw dy filwyr yn dy ganol,y mae pyrth dy wlad yn agored i'th elynion,a thân wedi ysu eu barrau.

14 Tyn ddŵr ar gyfer gwarchae,cryfha dy amddiffynfeydd;dos at y clai,sathra'r pridd,moldia briddfeini.

15 Er hynny, cei dy ddifa gan dân,fe'th dorrir ymaith â'r cleddyf,ac fe'th ysir fel gan locust.Lluosoga fel y locust,lluosoga fel y sbonciwr,haid sy'n ymledu ac yn hedfan ymaith.

16 Y mae dy farsiandïwyryn lluosocach na sêr y nefoedd,

17 dy dywysogion fel locustiaid,dy gapteiniaid fel cwmwl o sboncwyr—ymsefydlant ar y muriau ar ddiwrnod oer,ond pan gyfyd yr haul ehedant ymaith,ac ni ŵyr neb ble maent.

18 Cysgu y mae dy fugeiliaid, O frenin Asyria,a'th arweinwyr yn gorffwyso;gwasgarwyd dy luoedd hyd y mynyddoedd,heb neb i'w casglu.

19 Ni ellir lliniaru dy glwyf;y mae dy archoll yn ddwfn.Bydd pob un a glyw'r newydd amdanatyn curo'i ddwylo o'th blegid.A oes rhywun nad yw wedi dioddef oddi wrth dy ddrygioni diddiwedd?

Penodau

1 2 3