4 Y cyfan oherwydd puteindra mynych y butain,y deg ei phryd, meistres swynion,a dwyllodd genhedloedd â'i phuteindra,a phobloedd â'i swynion.
5 “Wele fi yn dy erbyn,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.“Codaf odre dy wisg at dy wyneb,a dangosaf dy noethni i'r cenhedloedd,a'th warth i'r teyrnasoedd.
6 Taflaf fudreddi drosot,gwaradwyddaf di a'th wneud yn sioe.
7 Yna bydd pob un a'th wêl yn cilio oddi wrthyt ac yn dweud,‘Difethwyd Ninefe, pwy a gydymdeimla â hi?’O ble y ceisiaf rai i'th gysuro?”
8 A wyt yn well na Thebes,sydd ar lannau'r Neil,gyda dŵr o'i hamgylch,y môr yn fur,a'r lli yn wrthglawdd iddi?
9 Ethiopia oedd ei chadernid,a'r Aifft hefyd, a hynny'n ddihysbydd;Put a Libya oedd ei chymorth.
10 Ond dygwyd hithau ymaith a'i chaethgludo;drylliwyd ei phlantos ar ben pob heol;bwriwyd coelbren am ei huchelwyr,a rhwymwyd ei mawrion â chadwynau.