2 Corinthiaid 1 BCN

Cyfarch

1 Paul, apostol Crist Iesu trwy ewyllys Duw, a'r brawd Timotheus, at eglwys Dduw sydd yng Nghorinth, ynghyd â'r holl saint ar hyd a lled Achaia.

2 Gras a thangnefedd i chwi oddi wrth Dduw ein Tad, a'r Arglwydd Iesu Grist.

Paul yn Diolch ar ôl Gorthrymder

3 Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, y Tad sy'n trugarhau a'r Duw sy'n rhoi pob diddanwch.

4 Y mae'n ein diddanu ym mhob gorthrymder, er mwyn i ninnau, trwy'r diddanwch a gawn ganddo ef, allu diddanu'r rhai sydd dan bob math o orthrymder.

5 Oherwydd fel y mae dioddefiadau Crist yn gorlifo hyd atom ni, felly hefyd trwy Grist y mae ein diddanwch yn gorlifo.

6 Os gorthrymir ni, er mwyn eich diddanwch chwi a'ch iachawdwriaeth y mae hynny; neu os diddenir ni, er mwyn eich diddanwch chwi y mae hynny hefyd, i'ch nerthu i ymgynnal dan yr un dioddefiadau ag yr ydym ni yn eu dioddef.

7 Y mae sail sicr i'n gobaith amdanoch, oherwydd fe wyddom fod i chwi gyfran yn y diddanwch yn union fel y mae gennych gyfran yn y dioddefiadau.

8 Yr ydym am i chwi wybod, gyfeillion, am y gorthrymder a ddaeth i'n rhan yn Asia, iddo ein trechu a'n llethu mor llwyr nes inni anobeithio am gael byw hyd yn oed.

9 Do, teimlasom ynom ein hunain ein bod wedi derbyn dedfryd marwolaeth; yr amcan oedd ein cadw rhag ymddiried ynom ein hunain, ond yn y Duw sy'n cyfodi'r meirw.

10 Gwaredodd ef ni gynt oddi wrth y fath berygl marwol, ac fe'n gwared eto; ynddo ef y mae ein gobaith. Fe'n gwared eto,

11 wrth i chwithau ymuno i'n cynorthwyo â'ch gweddi, ac felly bydd ein gwaredigaeth raslon, trwy weddi llawer, yn destun diolch gan lawer ar ein rhan.

Gohirio Ymweliad Paul

12 Dyma yw ein hymffrost ni: bod ein cydwybod yn tystio bod ein hymddygiad yn y byd, a mwy byth tuag atoch chwi, wedi ei lywio gan unplygrwydd a didwylledd duwiol, nid gan ddoethineb ddynol ond gan ras Duw.

13 Oherwydd nid ydym yn ysgrifennu dim atoch na allwch ei ddarllen a'i ddeall. Yr wyf yn gobeithio y dewch i ddeall yn gyflawn,

14 fel yr ydych eisoes wedi deall yn rhannol amdanom, y byddwn ni yn destun ymffrost i chwi yn union fel y byddwch chwi i ninnau yn Nydd ein Harglwydd Iesu.

15 Am fy mod mor sicr o hyn, yr oeddwn yn bwriadu dod atoch chwi'n gyntaf, er mwyn i chwi gael bendith eilwaith.

16 Fy amcan oedd ymweld â chwi ar fy ffordd i Facedonia, a dod yn ôl atoch o Facedonia, ac i chwithau fy hebrwng i Jwdea.

17 Os hyn oedd fy mwriad, a fûm yn wamal? Neu ai fel dyn bydol yr wyf yn gwneud fy nhrefniadau, nes medru dweud “Ie, ie” a “Nage, nage” ar yr un anadl?

18 Ond fel y mae Duw'n ffyddlon, nid “Ie” a “Nage” hefyd yw ein gair ni i chwi.

19 Nid oedd Mab Duw, Iesu Grist, a bregethwyd yn eich plith gennym ni, gan Silfanus a Timotheus a minnau, nid oedd ef yn “Ie” ac yn “Nage”. “Ie” yw'r gair a geir ynddo ef.

20 Ynddo ef y mae'r “Ie” i holl addewidion Duw. Dyna pam mai trwyddo ef yr ydym yn dweud yr “Amen” er gogoniant Duw.

21 Ond Duw yw'r hwn sydd yn ein cadarnhau ni gyda chwi yng Nghrist,

22 ac sydd wedi ein heneinio ni, a'n selio ni, a rhoi'r Ysbryd yn ernes yn ein calonnau.

23 Yr wyf fi'n galw Duw yn dyst ar fy einioes, mai i'ch arbed chwi y penderfynais beidio â dod i Gorinth.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13