2 Corinthiaid 6 BCN

1 Yr ydym ni, fel cydweithwyr, yn apelio atoch i beidio â gadael i'r gras a dderbyniasoch gan Dduw fynd yn ofer.

2 Oherwydd y mae Duw'n dweud:“Yn yr amser cymeradwy y gwrandewais arnat,a'th gynorthwyo ar ddydd iachawdwriaeth.”Dyma, yn awr, yr amser cymeradwy; dyma, yn awr, ddydd iachawdwriaeth.

3 Nid ydym yn gosod unrhyw faen tramgwydd ar lwybr neb, rhag cael bai ar ein gweinidogaeth.

4 Yn hytrach, ym mhob peth yr ydym yn ein cymeradwyo ein hunain fel gweinidogion Duw: yn ein dyfalbarhad mawr; yn ein gorthrymderau, ein gofidiau, a'n cyfyngderau;

5 yn ein profiadau o'r chwip, o garchar ac o derfysg; yn ein llafur, ein diffyg cwsg a'n newyn;

6 yn ein purdeb, ein gwybodaeth, ein goddefgarwch a'n caredigrwydd; yn yr Ysbryd Glân ac yn ein cariad diragrith;

7 yng ngair y gwirionedd ac yn nerth Duw, trwy ddefnyddio arfau cyfiawnder yn y llaw dde a'r llaw chwith,

8 doed parch, doed amarch, doed anghlod, doed clod. Twyllwyr y'n gelwir, a ninnau'n eirwir;

9 rhai dinod, a ninnau'n enwog; yn marw, ac eto byw ydym; dan gosb, ond heb gael ein lladd;

10 dan dristwch, ond bob amser yn llawenhau; mewn tlodi, ond yn gwneud llawer yn gyfoethog; heb ddim gennym, ac eto'n berchen pob peth.

11 Yr ydym wedi llefaru'n gwbl rydd wrthych, Gorinthiaid; y mae'n calon yn llydan agored tuag atoch.

12 Nid nyni sy'n cyfyngu arnoch, ond eich teimladau eich hunain.

13 I dalu'n ôl—yr wyf yn siarad wrthych fel wrth blant—agorwch chwithau eich calonnau yn llydan.

Chwi yw Teml y Duw Byw

14 Peidiwch ag ymgysylltu'n amhriodol ag anghredinwyr, oherwydd pa gyfathrach sydd rhwng cyfiawnder ac anghyfraith? A pha gymdeithas sydd rhwng goleuni a thywyllwch?

15 Pa gytgord sydd rhwng Crist a Belial? Neu pa gyfran sydd i gredadun gydag anghredadun?

16 Pa gytundeb sydd rhwng teml Duw ac eilunod? Oherwydd nyni yw teml y Duw byw. Fel y dywedodd Duw:“Trigaf ynddynt hwy, a rhodiaf yn eu plith,a byddaf yn Dduw iddynt hwy,a hwythau'n bobl i minnau.

17 Am hynny, dewch allan o'u plith hwy,ymwahanwch oddi wrthynt, medd yr Arglwydd,a pheidiwch â chyffwrdd â dim byd aflan.Ac fe'ch derbyniaf chwi,

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13