2 Corinthiaid 13 BCN

Rhybuddion Terfynol a Chyfarchion

1 Dyma'r drydedd waith y dof atoch chwi. Y mae pob peth i sefyll ar air dau neu dri o dystion.

2 Pan oeddwn gyda chwi yr ail waith, rhoddais rybudd i'r rhai oedd gynt wedi pechu, ac i bawb arall; yn awr, a minnau'n absennol, yr wyf yn dal i'w rhybuddio: os dof eto, nid arbedaf.

3 Rwy'n dweud hyn gan eich bod yn gofyn am brawf o'r Crist sy'n llefaru ynof fi, y Crist nad yw'n wan yn ei ymwneud â chwi, ond sydd yn nerthol yn eich plith.

4 Oherwydd er ei groeshoelio ef mewn gwendid, eto y mae'n byw trwy nerth Duw. Ac er ein bod ninnau yn wan ynddo ef, eto fe gawn fyw gydag ef trwy nerth Duw, yn ein perthynas â chwi.

5 Profwch eich hunain i weld a ydych yn y ffydd; chwiliwch eich hunain. Onid ydych yn sylweddoli bod Iesu Grist ynoch chwi?—a chaniatáu nad ydych wedi methu'r prawf.

6 Yr wyf yn gobeithio y dewch chwi i weld nad ydym ni wedi methu.

7 Yr ydym yn gweddïo ar Dduw na fydd i chwi wneud dim drwg, nid er mwyn i ni ymddangos fel rhai a lwyddodd yn y prawf, ond er mwyn i chwi wneud yr hyn sydd dda, er i ni ymddangos fel rhai a fethodd.

8 Oherwydd ni allwn wneud dim yn erbyn y gwirionedd, dim ond dros y gwirionedd.

9 Yr ydym yn llawenhau pan fyddwn ni'n wan a chwithau'n gryf; a hyn yn wir yw ein gweddi, i chwi gael eich adfer.

10 Yr wyf yn ysgrifennu'r pethau hyn, a minnau'n absennol, er mwyn i mi, pan fyddaf yn bresennol, beidio â'ch trafod yn llym wrth arfer yr awdurdod a roddodd yr Arglwydd imi i adeiladu, nid i ddymchwel.

11 Bellach, gyfeillion, ffarwel. Mynnwch eich adfer, gwrandewch ar fy apêl, byddwch o'r un meddwl, a byw'n heddychlon; a bydd Duw'r cariad a'r tangnefedd gyda chwi.

12 Cyfarchwch eich gilydd â chusan sanctaidd. Y mae'r saint i gyd yn eich cyfarch.

13 Gras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Ysbryd Glân fyddo gyda chwi oll!

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13