12 Dyma yw ein hymffrost ni: bod ein cydwybod yn tystio bod ein hymddygiad yn y byd, a mwy byth tuag atoch chwi, wedi ei lywio gan unplygrwydd a didwylledd duwiol, nid gan ddoethineb ddynol ond gan ras Duw.
13 Oherwydd nid ydym yn ysgrifennu dim atoch na allwch ei ddarllen a'i ddeall. Yr wyf yn gobeithio y dewch i ddeall yn gyflawn,
14 fel yr ydych eisoes wedi deall yn rhannol amdanom, y byddwn ni yn destun ymffrost i chwi yn union fel y byddwch chwi i ninnau yn Nydd ein Harglwydd Iesu.
15 Am fy mod mor sicr o hyn, yr oeddwn yn bwriadu dod atoch chwi'n gyntaf, er mwyn i chwi gael bendith eilwaith.
16 Fy amcan oedd ymweld â chwi ar fy ffordd i Facedonia, a dod yn ôl atoch o Facedonia, ac i chwithau fy hebrwng i Jwdea.
17 Os hyn oedd fy mwriad, a fûm yn wamal? Neu ai fel dyn bydol yr wyf yn gwneud fy nhrefniadau, nes medru dweud “Ie, ie” a “Nage, nage” ar yr un anadl?
18 Ond fel y mae Duw'n ffyddlon, nid “Ie” a “Nage” hefyd yw ein gair ni i chwi.