8 Yr ydym am i chwi wybod, gyfeillion, am y gorthrymder a ddaeth i'n rhan yn Asia, iddo ein trechu a'n llethu mor llwyr nes inni anobeithio am gael byw hyd yn oed.
9 Do, teimlasom ynom ein hunain ein bod wedi derbyn dedfryd marwolaeth; yr amcan oedd ein cadw rhag ymddiried ynom ein hunain, ond yn y Duw sy'n cyfodi'r meirw.
10 Gwaredodd ef ni gynt oddi wrth y fath berygl marwol, ac fe'n gwared eto; ynddo ef y mae ein gobaith. Fe'n gwared eto,
11 wrth i chwithau ymuno i'n cynorthwyo â'ch gweddi, ac felly bydd ein gwaredigaeth raslon, trwy weddi llawer, yn destun diolch gan lawer ar ein rhan.
12 Dyma yw ein hymffrost ni: bod ein cydwybod yn tystio bod ein hymddygiad yn y byd, a mwy byth tuag atoch chwi, wedi ei lywio gan unplygrwydd a didwylledd duwiol, nid gan ddoethineb ddynol ond gan ras Duw.
13 Oherwydd nid ydym yn ysgrifennu dim atoch na allwch ei ddarllen a'i ddeall. Yr wyf yn gobeithio y dewch i ddeall yn gyflawn,
14 fel yr ydych eisoes wedi deall yn rhannol amdanom, y byddwn ni yn destun ymffrost i chwi yn union fel y byddwch chwi i ninnau yn Nydd ein Harglwydd Iesu.