1 Yr wyf fi, Paul, fy hun yn eich annog, ar sail addfwynder a hynawsedd Crist—myfi, y dywedir fy mod yn wylaidd wyneb yn wyneb â chwi ond yn hy arnoch pan fyddaf ymhell.
2 Pan fyddaf gyda chwi, yr wyf yn erfyn arnoch na fydd angen imi arfer yn eofn yr hyfdra yr wyf yn ystyried y gallaf feiddio ei arfer tuag at y rhai sy'n ein cyfrif ni'n rhai sy'n byw ar wastad y cnawd.
3 Oherwydd er ein bod yn byw yn y cnawd, nid ar wastad y cnawd yr ydym yn milwrio—
4 canys nid arfau gwan y cnawd yw arfau ein milwriaeth ni, ond rhai nerthol Duw sy'n dymchwel cestyll.
5 Felly yr ydym yn dymchwel dadleuon dynol, a phob ymhoniad balch sy'n ymgodi yn erbyn yr adnabyddiaeth o Dduw, ac yn cymryd pob meddwl yn garcharor i fod yn ufudd i Grist.
6 Yr ydym yn barod i gosbi pob anufudd-dod unwaith y bydd eich ufudd-dod chwi yn gyflawn.
7 Wynebwch y ffeithiau amlwg. Pwy bynnag sy'n credu yn ei galon ei fod yn perthyn i Grist, fe ddylai ystyried hyn hefyd yn ei galon, ein bod ninnau yn perthyn i Grist gymaint ag yntau.