30 Os oes rhaid ymffrostio, ymffrostiaf am y pethau sy'n perthyn i'm gwendid.
31 Y mae Duw a Thad yr Arglwydd Iesu, yr hwn sydd fendigedig am byth, yn gwybod nad wyf yn dweud celwydd.
32 Yn Namascus, yr oedd y llywodraethwr oedd dan y Brenin Aretas yn gwylio dinas Damascus er mwyn fy nal i,
33 ond cefais fy ngollwng i lawr mewn basged drwy ffenestr yn y mur, a dihengais o'i afael.