7 A wneuthum drosedd wrth fy narostwng fy hun er mwyn ichwi gael eich dyrchafu, trwy bregethu ichwi Efengyl Duw yn ddi-dâl?
8 Ysbeiliais eglwysi eraill trwy dderbyn cyflog ganddynt er mwyn eich gwasanaethu chwi.
9 A phan oeddwn gyda chwi ac mewn angen, ni bûm yn faich ar neb, oherwydd diwallodd y cyfeillion a ddaeth o Facedonia fy angen. Ym mhob peth fe'm cedwais, ac fe'm cadwaf, fy hun rhag bod yn dreth arnoch.
10 Cyn wired â bod gwirionedd Crist ynof, ni roddir taw ar fy ymffrost hwn yn ardaloedd Achaia.
11 Pam? Am nad wyf yn eich caru? Fe ŵyr Duw fy mod.
12 Daliaf i wneud yr hyn yr wyf yn ei wneud yn awr, i ddwyn eu cyfle oddi ar y rhai sy'n ceisio cyfle, yn y swydd y maent yn ymffrostio ynddi, i gael eu cyfrif yn gyfartal â ni.
13 Ffug apostolion yw'r fath rai, gweithwyr twyllodrus, yn ymrithio fel apostolion i Grist.