1 Y mae'n rhaid imi ymffrostio. Ni wna ddim lles, ond af ymlaen i sôn am weledigaethau a datguddiadau a roddwyd i mi gan yr Arglwydd.
2 Gwn am ddyn yng Nghrist a gipiwyd, bedair blynedd ar ddeg yn ôl, i fyny i'r drydedd nef—ai yn y corff, ai allan o'r corff, ni wn; y mae Duw'n gwybod.
3 Gwn i'r dyn hwnnw gael ei gipio i fyny i Baradwys—ai yn y corff, ai allan o'r corff, ni wn; y mae Duw'n gwybod.
4 Ac fe glywodd draethu'r anhraethadwy, geiriau nad oes hawl gan neb dynol i'w llefaru.
5 Am hwnnw yr wyf yn ymffrostio; amdanaf fy hun nid ymffrostiaf, ar wahân i'm gwendidau.
6 Ond os dewisaf ymffrostio, ni byddaf ffôl, oherwydd dweud y gwir y byddaf. Ond ymatal a wnaf, rhag i neb feddwl mwy ohonof na'r hyn y mae'n ei weld ynof neu'n ei glywed gennyf.
7 A rhag i mi ymddyrchafu o achos rhyfeddod y pethau a ddatguddiwyd imi, rhoddwyd draenen yn fy nghnawd, cennad oddi wrth Satan, i'm poeni, rhag imi ymddyrchafu.