11 Euthum yn ffôl, ond chwi a'm gyrrodd i hyn. Oherwydd dylaswn i gael fy nghanmol gennych chwi. Nid wyf fi yn ôl mewn dim i'r archapostolion hyn, hyd yn oed os nad wyf fi'n ddim.
12 Cyflawnwyd arwyddion apostol yn eich plith gyda dyfalbarhad cyson, mewn arwyddion a rhyfeddodau a gwyrthiau nerthol.
13 Ym mha beth y bu'n waeth arnoch chwi na'r eglwysi eraill, ond yn hyn, na fûm i yn faich arnoch chwi? Maddeuwch imi y camwedd hwn.
14 Dyma fi'n barod i ddod atoch y drydedd waith. Ac nid wyf am fod yn faich arnoch. Oherwydd chwi yr wyf yn eu ceisio, nid eich eiddo; nid y plant a ddylai ddarparu ar gyfer eu rhieni, ond y rhieni ar gyfer eu plant.
15 Fe wariaf fi fy eiddo yn llawen, ac fe'm gwariaf fy hunan i'r eithaf, dros eich eneidiau chwi. Os wyf fi'n eich caru chwi'n fwy, a wyf fi i gael fy ngharu'n llai?
16 Ond, a chaniatáu na fûm i'n dreth arnoch, eto honnir imi fod yn ddigon cyfrwys i'ch dal trwy ddichell.
17 A fanteisiais arnoch trwy unrhyw un o'r rhai a anfonais atoch?