1 Am hynny, gan fod y weinidogaeth hon gennym trwy drugaredd Duw, nid ydym yn digalonni.
2 Yr ydym wedi ymwrthod â ffyrdd dirgel a chywilyddus; nid ydym yn arfer cyfrwystra nac yn llurgunio gair Duw. Yn hytrach, trwy ddwyn y gwirionedd i'r amlwg yr ydym yn ein cymeradwyo'n hunain i gydwybod pob un gerbron Duw.
3 Os yw'n hefengyl ni dan orchudd, yn achos y rhai sydd ar lwybr colledigaeth y mae hi felly—
4 yr anghredinwyr y dallodd duw'r oes bresennol eu meddyliau, rhag iddynt weld goleuni Efengyl gogoniant Crist, delw Duw.