16 O hyn allan, felly, nid ydym yn ystyried neb o safbwynt dynol. Hyd yn oed os buom yn ystyried Crist o safbwynt dynol, nid ydym yn ei ystyried felly mwyach.
17 Felly, os yw rhywun yng Nghrist, y mae'n greadigaeth newydd; aeth yr hen heibio, y mae'r newydd yma.
18 Ond gwaith Duw yw'r cyfan—Duw, yr hwn sydd wedi ein cymodi ni ag ef ei hun trwy Grist a rhoi i ni weinidogaeth y cymod.
19 Hynny yw, yr oedd Duw yng Nghrist yn cymodi'r byd ag ef ei hun, heb ddal neb yn gyfrifol am ei droseddau, ac y mae wedi ymddiried i ni neges y cymod.
20 Felly cenhadon dros Grist ydym ni, fel pe bai Duw yn apelio atoch trwom ni. Deisyf yr ydym dros Grist, cymoder chwi â Duw.