4 Y mae gennyf hyder mawr ynoch, a balchder mawr o'ch herwydd. Y mae fy nghwpan yn llawn o ddiddanwch, ac yn gorlifo â llawenydd yng nghanol ein holl orthrymder.
5 Hyd yn oed pan ddaethom i Facedonia, ni chawsom ddim llonydd yn ein gwendid; yn hytrach cawsom ein gorthrymu ym mhob ffordd—brwydrau oddi allan ac ofnau oddi mewn.
6 Ond y mae Duw, yr un sydd yn diddanu'r digalon, wedi ein diddanu ninnau trwy ddyfodiad Titus;
7 ac nid yn unig trwy ei ddyfodiad ef, ond hefyd trwy'r diddanwch a gafodd ef ynoch chwi. Y mae wedi dweud wrthym am eich hiraeth amdanaf, am eich galar, ac am eich sêl drosof, nes gwneud fy llawenydd yn fwy byth.
8 Oherwydd er i mi beri loes i chwi â'm llythyr, nid yw'n flin gennyf; rwy'n gweld i'r llythyr hwnnw beri loes i chwi, o leiaf dros dro,
9 ac er y bu'n flin gennyf, yr wyf yn awr yn falch, nid am i chwi gael loes, ond am i'r loes droi'n edifeirwch. Oherwydd derbyniasoch eich loes mewn ffordd dduwiol, ac felly ni chawsoch ddim colled trwom ni.
10 Canys y mae'r loes a dderbynnir mewn ffordd dduwiol yn creu edifeirwch sydd yn arwain i iachawdwriaeth na ellir bod yn flin amdano; ond y mae'r loes a dderbynnir mewn ffordd fydol yn peri marwolaeth.