13 Nid fy mwriad yw cael esmwythyd i eraill ar draul gorthrymder i chwi,
14 ond eich gwneud yn gyfartal. Yn yr amser presennol hwn y mae'r hyn sydd dros ben gennych chwi yn cyflenwi eu diffyg hwy, fel y bydd i'r hyn sydd dros ben ganddynt hwy gyflenwi eich diffyg chwi maes o law. Cyfartaledd yw'r diben.
15 Fel y mae'n ysgrifenedig:“Nid oedd gormod gan y sawl a gasglodd lawer,na phrinder gan y sawl a gasglodd ychydig.”
16 Diolch i Dduw, yr hwn a roddodd yng nghalon Titus yr un ymroddiad drosoch.
17 Oherwydd nid yn unig gwrandawodd ar ein hapêl, ond gymaint yw ei ymroddiad fel y mae o'i wirfodd ei hun yn ymadael i fynd atoch.
18 Yr ydym yn anfon gydag ef y brawd sy'n uchel ei glod drwy'r holl eglwysi am ei waith dros yr Efengyl,
19 un sydd, heblaw hyn, wedi ei benodi gan yr eglwysi i fod yn gyd-deithiwr â ni, ac i'n cynorthwyo yn y rhodd raslon yr ydym yn ei gweinyddu, i ddangos gogoniant yr Arglwydd ei hun a'n heiddgarwch ni.