12 neu yn hytrach, os caf esbonio, i mi, yn eich cymdeithas, gael fy nghalonogi ynghyd â chwi trwy'r ffydd sy'n gyffredin i'r naill a'r llall ohonom.
13 Yr wyf am i chwi wybod, fy nghyfeillion, imi fwriadu lawer gwaith ddod atoch, er mwyn cael peth ffrwyth yn eich plith chwi fel y cefais ymhlith y rhelyw o'r Cenhedloedd, ond hyd yma yr wyf wedi fy rhwystro.
14 Groegiaid a barbariaid, doethion ac annoethion—yr wyf dan rwymedigaeth iddynt oll.
15 A dyma'r rheswm fy mod i mor eiddgar i bregethu'r Efengyl i chwithau sydd yn Rhufain.
16 Nid oes arnaf gywilydd o'r Efengyl, oherwydd gallu Duw yw hi ar waith er iachawdwriaeth i bob un sy'n credu, yr Iddewon yn gyntaf a hefyd y Groegiaid.
17 Ynddi hi y datguddir cyfiawnder Duw, a hynny trwy ffydd o'r dechrau i'r diwedd, fel y mae'n ysgrifenedig: “Y sawl sydd trwy ffydd yn gyfiawn a gaiff fyw.”
18 Y mae digofaint Duw yn cael ei ddatguddio o'r nef yn erbyn holl annuwioldeb ac anghyfiawnder pobl sydd, trwy eu hanghyfiawnder, yn atal y gwirionedd.