Rhufeiniaid 11 BCN

Gweddill Israel

1 Yr wyf yn gofyn, felly, a yw'n bosibl fod Duw wedi gwrthod ei bobl ei hun? Nac ydyw, ddim o gwbl! Oherwydd yr wyf fi yn Israeliad, o linach Abraham, o lwyth Benjamin.

2 Nid yw Duw wedi gwrthod ei bobl, y bobl a adnabu cyn eu bod. Gwyddoch beth y mae'r Ysgrythur yn ei ddweud wrth adrodd hanes Elias yn galw ar Dduw yn erbyn Israel:

3 “Arglwydd, y maent wedi lladd dy broffwydi a bwrw d'allorau i lawr; myfi'n unig sydd ar ôl, ac y maent yn ceisio f'einioes innau.”

4 Ond yr atebiad dwyfol iddo oedd: “Gadewais i mi fy hun saith mil o bobl sydd heb blygu glin i Baal.”

5 Felly hefyd yn yr amser presennol hwn, y mae gweddill ar gael, gweddill sydd wedi ei ethol gan ras Duw.

6 Ond os trwy ras y bu hyn, ni all fod yn tarddu o gadw gofynion cyfraith; petai felly, byddai gras yn peidio â bod yn ras.

7 Mewn gair, y peth y mae Israel yn ei geisio, nid Israel a'i cafodd, ond y rhai a etholodd Duw; caledwyd y lleill,

8 fel y mae'n ysgrifenedig:“Rhoddodd Duw iddynt ysbryd swrth,llygaid i beidio â gweld,a chlustiau i beidio â chlywed,hyd y dydd heddiw.”

9 Ac y mae Dafydd yn dweud:“Bydded eu bwrdd yn fagl i'w rhwydo,ac yn groglath i'w cosbi;

10 tywyller eu llygaid iddynt beidio â gweld,a gwna hwy'n wargrwm dros byth.”

Iachawdwriaeth y Cenhedloedd

11 Yr wyf yn gofyn, felly, a yw eu llithriad yn gwymp terfynol? Nac ydyw, ddim o gwbl! I'r gwrthwyneb, am iddynt hwy droseddu y mae iachawdwriaeth wedi dod i'r Cenhedloedd, i wneud yr Iddewon yn eiddigeddus.

12 Ond os yw eu trosedd yn gyfrwng i gyfoethogi'r byd, a'u diffyg yn gyfrwng i gyfoethogi'r Cenhedloedd, pa faint mwy fydd y cyfoethogi pan ddônt yn eu cyflawn rif?

13 Ond i droi atoch chwi y Cenhedloedd. Yr wyf fi'n apostol y Cenhedloedd, ac fel y cyfryw rhoi bri ar fy swydd yr wyf

14 wrth geisio gwneud fy mhobl yn eiddigeddus, ac achub rhai ohonynt.

15 Oherwydd os bu eu bwrw hwy allan yn gymod i'r byd, bydd eu derbyn i mewn, yn sicr, yn fywyd o blith y meirw.

16 Os yw'r tamaid toes a offrymir yn sanctaidd, yna y mae'r toes i gyd yn sanctaidd. Os yw'r gwreiddyn yn sanctaidd, y mae'r canghennau hefyd yn sanctaidd.

17 Os torrwyd rhai canghennau i ffwrdd, a'th impio di yn eu plith, er mai olewydden wyllt oeddit, ac os daethost felly i gael rhan o faeth gwreiddyn yr olewydden,

18 paid ag ymffrostio ar draul y canghennau a dorrwyd. Os wyt am ymffrostio, cofia nad tydi sy'n cynnal y gwreiddyn, ond y gwreiddyn sy'n dy gynnal di.

19 Ond fe ddywedi, “Ie, ond torrwyd y canghennau i ffwrdd er mwyn i mi gael fy impio i mewn.”

20 Eithaf gwir; fe'u torrwyd hwy o achos anghrediniaeth, ac fe gefaist ti dy le trwy ffydd. Rho'r gorau i feddyliau mawreddog, a meithrin ofn Duw yn eu lle.

21 Oherwydd os nad arbedodd Duw y canghennau naturiol, nid arbeda dithau chwaith.

22 Am hynny, ystyria'r modd y mae Duw yn dangos ei diriondeb a'i erwinder: ei erwinder i'r rhai a gwympodd i fai, ond ei diriondeb i ti, cyhyd ag y cedwi dy hun o fewn cylch ei diriondeb. Os na wnei, cei dithau dy dorri allan o'r cyff.

23 Ond amdanynt hwy, os na fynnant aros yn eu hanghrediniaeth, cânt eu himpio i mewn i'r cyff, oherwydd y mae Duw yn abl i'w himpio'n ôl.

24 Oherwydd, os cefaist ti dy dorri o olewydden oedd yn wyllt wrth natur, a'th impio i mewn, yn groes i natur, i olewydden gardd, gymaint tebycach yw y cânt hwy, sydd wrth natur yn ganghennau olewydden gardd, eu himpio i mewn i'w holewydden hwy eu hunain!

Adfer Israel

25 Oherwydd yr wyf am i chwi wybod, gyfeillion, am y dirgelwch hwn (bydd hynny'n eich cadw rhag bod yn ddoeth yn eich tyb eich hunain), fod caledwch rhannol wedi syrthio ar Israel, hyd nes y daw'r Cenhedloedd i mewn yn eu cyflawn rif.

26 Pan ddigwydd hynny, caiff Israel i gyd ei hachub. Fel y mae'n ysgrifenedig:“Daw'r Gwaredydd o Seion,a throi pob annuwioldeb oddi wrth Jacob;

27 a dyma'r cyfamod a wnaf fi â hwy,pan gymeraf ymaith eu pechodau.”

28 O safbwynt yr Efengyl, gelynion Duw ydynt, ond y mae hynny'n fantais i chwi. O safbwynt eu hethol gan Dduw, y maent yn annwyl ganddo, ond y maent felly o achos yr hynafiaid.

29 Oherwydd nid oes tynnu'n ôl ar roddion graslon Duw, a'i alwad ef.

30 Buoch chwi unwaith yn anufudd i Dduw, ond yn awr, o ganlyniad i'w hanufudd-dod hwy, yr ydych wedi cael trugaredd.

31 Yn yr un modd, o ganlyniad i'r drugaredd a gawsoch chwi, y maent hwy hefyd wedi anufuddhau yn awr, fel mai derbyn trugaredd a wnânt hwythau.

32 Y mae Duw wedi cloi pawb yng ngharchar anufudd-dod, er mwyn gwneud pawb yn wrthrychau ei drugaredd.

33 O ddyfnder cyfoeth Duw, a'i ddoethineb a'i wybodaeth! Mor anchwiliadwy ei farnedigaethau, mor anolrheiniadwy ei ffyrdd!

34 Oherwydd,“Pwy a adnabu feddwl yr Arglwydd?Pwy a fu'n ei gynghori ef?

35 Pwy a achubodd y blaen arno â rhodd,i gael rhodd yn ôl ganddo?”

36 Oherwydd ohono ef, a thrwyddo ef, ac iddo ef y mae pob peth. Iddo ef y bo'r gogoniant am byth! Amen.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16