Rhufeiniaid 4 BCN

Abraham yn Esiampl

1 Beth gan hynny a ddywedwn am Abraham, hendad ein llinach? Beth a ddarganfu ef?

2 Oherwydd os cafodd Abraham ei gyfiawnhau trwy ei weithredoedd, y mae ganddo rywbeth i ymffrostio o'i herwydd. Ond na, gerbron Duw nid oes ganddo ddim.

3 Oherwydd beth y mae'r Ysgrythur yn ei ddweud? “Credodd Abraham yn Nuw, ac fe'i cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.”

4 Pan fydd rhywun yn gweithio, nid fel rhodd y cyfrifir y tâl, ond fel peth sy'n ddyledus.

5 Pan na fydd rhywun yn gweithio, ond yn rhoi ei ffydd yn yr hwn sy'n cyfiawnhau'r annuwiol, cyfrifir ei ffydd i un felly yn gyfiawnder.

6 Dyna ystyr yr hyn y mae Dafydd yn ei ddweud am wynfyd y rhai y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder iddynt, yn annibynnol ar gadw gofynion cyfraith:

7 “Gwyn eu byd y rhai y maddeuwyd eu troseddau,ac y cuddiwyd eu pechodau;

8 gwyn ei fyd y sawl na fydd yr Arglwydd yn cyfrif pechod yn ei erbyn.”

9 Y gwynfyd hwn, ai braint yn dilyn ar enwaediad yw? Oni cheir ef heb enwaediad hefyd? Ceir yn wir, oherwydd ein hymadrodd yw, “cyfrifwyd ei ffydd i Abraham yn gyfiawnder”.

10 Ond sut y bu'r cyfrif? Ai ar ôl enwaedu arno, ynteu cyn hynny? Cyn yr enwaedu, nid ar ei ôl.

11 Ac wedyn derbyniodd arwydd yr enwaediad, yn sêl o'r cyfiawnder oedd eisoes yn eiddo iddo trwy ffydd, heb enwaediad. O achos hyn, y mae yn dad i bawb sy'n meddu ar ffydd, heb enwaediad, a chyfiawnder felly yn cael ei gyfrif iddynt.

12 Y mae yn dad hefyd i'r rhai enwaededig sydd nid yn unig yn enwaededig ond hefyd yn dilyn camre'r ffydd oedd yn eiddo i Abraham ein tad cyn enwaedu arno.

Cyflawni'r Addewid Trwy Ffydd

13 Y mae'r addewid i Abraham, neu i'w ddisgynyddion, y byddai yn etifedd y byd, wedi ei rhoi, nid trwy'r Gyfraith ond trwy'r cyfiawnder a geir trwy ffydd.

14 Oherwydd, os y rhai sy'n byw yn ôl y Gyfraith yw'r etifeddion, yna gwagedd yw ffydd, a diddim yw'r addewid.

15 Digofaint yw cynnyrch y Gyfraith, ond lle nad oes cyfraith, nid oes trosedd yn ei herbyn chwaith.

16 Am hynny, rhoddwyd yr addewid trwy ffydd er mwyn iddi fod yn ôl gras, fel y byddai yn ddilys i bawb o ddisgynyddion Abraham, nid yn unig i'r rhai sy'n byw yn ôl y Gyfraith, ond hefyd i'r rhai sy'n byw yn ôl ffydd Abraham. Y mae Abraham yn dad i ni i gyd;

17 fel y mae'n ysgrifenedig: “Yr wyf yn dy benodi yn dad cenhedloedd lawer.” Yn y Duw a ddywedodd hyn y credodd Abraham, y Duw sy'n gwneud y meirw'n fyw, ac yn galw i fod yr hyn nad yw'n bod.

18 A'r credu hwn, â gobaith y tu hwnt i obaith, a'i gwnaeth yn dad cenhedloedd lawer, yn ôl yr hyn a lefarwyd: “Felly y bydd dy ddisgynyddion.”

19 Er ei fod tua chant oed, ni wanychodd yn ei ffydd, wrth ystyried cyflwr marw ei gorff ei hun a marweidd-dra croth Sara.

20 Nid amheuodd ddim ynglŷn ag addewid Duw, na diffygio mewn ffydd, ond yn hytrach grymusodd yn ei ffydd a rhoi gogoniant i Dduw,

21 yn llawn hyder fod Duw yn abl i gyflawni'r hyn yr oedd wedi ei addo.

22 Dyma pam y cyfrifwyd ei ffydd iddo yn gyfiawnder.

23 Ond ysgrifennwyd y geiriau, “fe'i cyfrifwyd iddo”, nid ar gyfer Abraham yn unig,

24 ond ar ein cyfer ni hefyd. Y mae cyfiawnder i'w gyfrif i ni, sydd â ffydd gennym yn yr hwn a gyfododd Iesu ein Harglwydd oddi wrth y meirw.

25 Cafodd ef ei draddodi i farwolaeth am ein camweddau, a'i gyfodi i'n cyfiawnhau ni.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16