Rhufeiniaid 12 BCN

Y Bywyd Newydd yng Nghrist

1 Am hynny, yr wyf yn ymbil arnoch, gyfeillion, ar sail tosturiaethau Duw, i'ch offrymu eich hunain yn aberth byw, sanctaidd a derbyniol gan Dduw. Felly y rhowch iddo addoliad ysbrydol.

2 A pheidiwch â chydymffurfio â'r byd hwn, ond bydded ichwi gael eich trawsffurfio trwy adnewyddu eich meddwl, er mwyn ichwi allu canfod beth yw ei ewyllys, beth sy'n dda a derbyniol a pherffaith yn ei olwg ef.

3 Oherwydd, yn rhinwedd y gras y mae Duw wedi ei roi i mi, yr wyf yn dweud wrth bob un yn eich plith am beidio â'i gyfrif ei hun yn well nag y dylid ei gyfrif, ond bod yn gyfrifol yn ei gyfrif, ac yn gyson â'r mesur o ffydd y mae Duw wedi ei roi i bob un.

4 Yn union fel y mae gennym aelodau lawer mewn un corff, ond nad oes gan yr holl aelodau yr un gwaith,

5 felly hefyd yr ydym ni, sy'n llawer, yn un corff yng Nghrist, ac yn aelodau bob un i'w gilydd.

6 A chan fod gennym ddoniau sy'n amrywio yn ôl y gras a roddwyd i ni, dylem eu harfer yn gyson â hynny. Os proffwydoliaeth yw dy ddawn, arfer hi yn gymesur â'th ffydd.

7 Os dawn gweini ydyw, arfer hi i weini. Os addysgu yw dy ddawn, arfer dy ddawn i addysgu, ac os cynghori, i gynghori.

8 Os wyt yn rhannu ag eraill, gwna hynny gyda haelioni; os wyt yn arweinydd, gwna'r gwaith gydag ymroddiad; os wyt yn dangos tosturi, gwna hynny gyda llawenydd.

Rheolau'r Bywyd Cristionogol

9 Bydded eich cariad yn ddiragrith. Casewch ddrygioni. Glynwch wrth ddaioni.

10 Byddwch wresog yn eich serch at eich gilydd fel cymdeithas. Rhowch y blaen i'ch gilydd mewn parch.

11 Yn ddiorffwys eich ymroddiad, yn frwd eich ysbryd, gwasanaethwch yr Arglwydd.

12 Llawenhewch mewn gobaith. Safwch yn gadarn dan orthrymder. Daliwch ati i weddïo.

13 Cyfrannwch at reidiau'r saint, a byddwch barod eich lletygarwch.

14 Bendithiwch y rhai sy'n eich erlid, bendithiwch heb felltithio byth.

15 Llawenhewch gyda'r rhai sy'n llawenhau, ac wylwch gyda'r rhai sy'n wylo.

16 Byddwch yn gytûn ymhlith eich gilydd. Gochelwch feddyliau mawreddog; yn hytrach, rhodiwch gyda'r distadl. Peidiwch â'ch cyfrif eich hunain yn ddoeth.

17 Peidiwch â thalu drwg am ddrwg i neb. Bydded eich amcanion yn anrhydeddus yng ngolwg pawb.

18 Os yw'n bosibl, ac os yw'n dibynnu arnoch chwi, daliwch mewn heddwch â phawb.

19 Peidiwch â mynnu dial, gyfeillion annwyl, ond rhowch ei gyfle i'r digofaint dwyfol, fel y mae'n ysgrifenedig: “ ‘Myfi piau dial, myfi a dalaf yn ôl,’ medd yr Arglwydd.”

20 Yn hytrach, os bydd dy elynion yn newynu, rho fwyd iddynt; os byddant yn sychedu, rho iddynt beth i'w yfed. Os gwnei hyn, byddi'n pentyrru marwor poeth ar eu pennau.

21 Paid â goddef dy drechu gan ddrygioni. Trecha di ddrygioni â daioni.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16