3 Oherwydd, yn eu hanwybodaeth am gyfiawnder Duw, a'u hymgais i sefydlu eu cyfiawnder eu hunain, nid ydynt wedi ymostwng i gyfiawnder Duw.
4 Oherwydd Crist yw diwedd y Gyfraith, ac felly, i bob un sy'n credu y daw cyfiawnder Duw.
5 Ysgrifennodd Moses am y cyfiawnder trwy y Gyfraith: “Y sawl sy'n cadw ei gofynion a gaiff fyw trwyddynt.”
6 Ond fel hyn y dywed y cyfiawnder trwy ffydd: “Paid â dweud yn dy galon, ‘Pwy a esgyn i'r nef?’ ”—hynny yw, i ddwyn Crist i lawr—
7 “neu, ‘Pwy a ddisgyn i'r dyfnder?’ ”—hynny yw, i ddwyn Crist i fyny oddi wrth y meirw.
8 Ond beth mae'n ei ddweud?“Y mae'r gair yn agos atat,yn dy enau ac yn dy galon.”A dyma'r gair yr ydym ni yn ei bregethu, gair ffydd, sef:
9 “Os cyffesi Iesu yn Arglwydd â'th enau, a chredu yn dy galon fod Duw wedi ei gyfodi ef oddi wrth y meirw, cei dy achub.”