7 “neu, ‘Pwy a ddisgyn i'r dyfnder?’ ”—hynny yw, i ddwyn Crist i fyny oddi wrth y meirw.
8 Ond beth mae'n ei ddweud?“Y mae'r gair yn agos atat,yn dy enau ac yn dy galon.”A dyma'r gair yr ydym ni yn ei bregethu, gair ffydd, sef:
9 “Os cyffesi Iesu yn Arglwydd â'th enau, a chredu yn dy galon fod Duw wedi ei gyfodi ef oddi wrth y meirw, cei dy achub.”
10 Oherwydd credu â'r galon sy'n esgor ar gyfiawnder, a chyffesu â'r genau sy'n esgor ar iachawdwriaeth.
11 Y mae'r Ysgrythur yn dweud: “Pob un sy'n credu ynddo, ni chywilyddir mohono.”
12 Nid oes dim gwahaniaeth rhwng Iddewon a Groegiaid. Yr un Arglwydd sydd i bawb, sy'n rhoi o'i gyfoeth i bawb sy'n galw arno.
13 Oherwydd, yng ngeiriau'r Ysgrythur, “bydd pob un sy'n galw ar enw yr Arglwydd yn cael ei achub, pwy bynnag yw.”