10 Ac y mae'n dweud eilwaith:“Llawenhewch, Genhedloedd, ynghyd â'i bobl ef.”
11 Ac eto:“Molwch yr Arglwydd, yr holl Genhedloedd,a'r holl bobloedd yn dyblu'r mawl.”
12 Y mae Eseia hefyd yn dweud:“Fe ddaw gwreiddyn Jesse,y gŵr sy'n codi i lywodraethu'r Cenhedloedd;arno ef y bydd y Cenhedloedd yn seilio'u gobaith.”
13 A bydded i Dduw, ffynhonnell gobaith, eich llenwi â phob llawenydd a thangnefedd wrth ichwi arfer eich ffydd, nes eich bod, trwy nerth yr Ysbryd Glân, yn gorlifo â gobaith.
14 Yr wyf fi, o'm rhan fy hun, yn gwbl sicr, fy nghyfeillion, eich bod chwithau yn llawn daioni, yn gyforiog o bob gwybodaeth, ac yn alluog i hyfforddi eich gilydd.
15 Bûm braidd yn hy arnoch mewn mannau yn fy llythyr, wrth geisio deffro eich cof. Ond gwneuthum hyn ar bwys y gorchwyl a roddodd Duw i mi o'i ras,
16 i fod yn weinidog Crist Iesu i'r Cenhedloedd, yn gweini fel offeiriad ar Efengyl Duw, er mwyn cyflwyno'r Cenhedloedd iddo yn offrwm cymeradwy, offrwm wedi ei gysegru gan yr Ysbryd Glân.