3 Oherwydd nid ei blesio ei hun a wnaeth Crist. I'r gwrthwyneb, fel y mae'n ysgrifenedig: “Y mae gwaradwydd y rhai oedd yn dy waradwyddo di wedi syrthio arnaf fi.”
4 Ac fe ysgrifennwyd yr Ysgrythurau gynt er mwyn ein dysgu ni, er mwyn i ni, trwy ddyfalbarhad a thrwy eu hanogaeth hwy, ddal ein gafael yn ein gobaith.
5 A rhodded Duw, ffynhonnell pob dyfalbarhad ac anogaeth, i chwi fod yn gytûn eich meddwl ymhlith eich gilydd, yn ôl ewyllys Crist Iesu,
6 er mwyn ichwi, yn unfryd ac yn unllais, ogoneddu Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist.
7 Am hynny, derbyniwch eich gilydd, fel y derbyniodd Crist chwi, er gogoniant Duw.
8 Oherwydd yr wyf yn dweud bod Crist wedi dod yn was i'r Iddewon er mwyn dangos geirwiredd Duw, sef ei fod yn cadarnhau'r addewidion i'r hynafiaid,
9 a hefyd er mwyn i'r Cenhedloedd ogoneddu Duw am ei drugaredd. Fel y mae'n ysgrifenedig:“Oherwydd hyn, clodforaf di ymysg y Cenhedloedd,a chanaf i'th enw.”