6 er mwyn ichwi, yn unfryd ac yn unllais, ogoneddu Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist.
7 Am hynny, derbyniwch eich gilydd, fel y derbyniodd Crist chwi, er gogoniant Duw.
8 Oherwydd yr wyf yn dweud bod Crist wedi dod yn was i'r Iddewon er mwyn dangos geirwiredd Duw, sef ei fod yn cadarnhau'r addewidion i'r hynafiaid,
9 a hefyd er mwyn i'r Cenhedloedd ogoneddu Duw am ei drugaredd. Fel y mae'n ysgrifenedig:“Oherwydd hyn, clodforaf di ymysg y Cenhedloedd,a chanaf i'th enw.”
10 Ac y mae'n dweud eilwaith:“Llawenhewch, Genhedloedd, ynghyd â'i bobl ef.”
11 Ac eto:“Molwch yr Arglwydd, yr holl Genhedloedd,a'r holl bobloedd yn dyblu'r mawl.”
12 Y mae Eseia hefyd yn dweud:“Fe ddaw gwreiddyn Jesse,y gŵr sy'n codi i lywodraethu'r Cenhedloedd;arno ef y bydd y Cenhedloedd yn seilio'u gobaith.”