5 Fy nghyfarchion hefyd i'r eglwys sy'n ymgynnull yn eu tŷ. Cyflwynwch fy nghyfarchion i'm cyfaill annwyl, Epainetus, y cyntaf yn Asia i ddod at Grist.
6 Cyfarchion i Fair, a fu'n ddiflin ei llafur ar eich rhan.
7 Cyfarchion i Andronicus a Jwnia, sydd o'r un genedl â mi, ac a fu'n gydgarcharorion â mi, yn amlwg ymhlith yr apostolion ac yn Gristionogion o'm blaen i.
8 Cyfarchion i Amplias, fy nghyfaill annwyl yn yr Arglwydd.
9 Cyfarchion i Wrbanus, ein cydweithiwr yng Nghrist, a'n cyfaill annwyl, Stachus.
10 Cyfarchwch Apeles, sy'n Gristion profedig. Cyfarchwch y rhai sydd o dŷ Aristobwlus.
11 Cyfarchwch Herodion, sydd o'r un genedl â mi. Cyfarchwch y Cristionogion sydd o dŷ Narcisus.