10 Fel y mae'n ysgrifenedig:“Nid oes neb cyfiawn, nac oes un,
11 neb sydd yn deall,neb yn ceisio Duw.
12 Y mae pawb wedi gwyro, yn ddi-fudd ynghyd;nid oes un a wna ddaioni,nac oes, dim un.
13 Bedd agored yw eu llwnc,a'u tafodau'n traethu twyll;gwenwyn nadredd dan eu gwefusau,
14 a'u genau'n llawn melltith a chwerwedd.
15 Cyflym eu traed i dywallt gwaed,
16 distryw a thrallod sydd ar eu ffyrdd;