5 Ond os yw'n hanghyfiawnder ni yn dwyn i'r golau gyfiawnder Duw, beth a ddywedwn? Mai anghyfiawn yw'r Duw sy'n bwrw ei ddigofaint arnom? (Siarad fel dyn yr wyf.)
6 Ddim ar unrhyw gyfrif! Os nad yw Duw yn gyfiawn, sut y gall farnu'r byd?
7 Ie, ond os yw fy anwiredd i yn foddion i ddangos helaethrwydd gwirionedd Duw, a dwyn gogoniant iddo, pam yr wyf fi o hyd dan farn fel pechadur?
8 “Gadewch i ni wneud drygioni er mwyn i ddaioni ddilyn”—ai dyna yr ydym yn ei ddweud, fel y mae rhai sy'n ein henllibio yn mynnu? Y mae'r rheini'n llawn haeddu bod dan gondemniad.
9 Wel, ynteu, a ydym ni'r Iddewon yn rhagori? Ddim o gwbl! Yr ydym eisoes wedi cyhuddo Iddewon a Groegiaid fel ei gilydd o fod dan lywodraeth pechod.
10 Fel y mae'n ysgrifenedig:“Nid oes neb cyfiawn, nac oes un,
11 neb sydd yn deall,neb yn ceisio Duw.