8 “Gadewch i ni wneud drygioni er mwyn i ddaioni ddilyn”—ai dyna yr ydym yn ei ddweud, fel y mae rhai sy'n ein henllibio yn mynnu? Y mae'r rheini'n llawn haeddu bod dan gondemniad.
9 Wel, ynteu, a ydym ni'r Iddewon yn rhagori? Ddim o gwbl! Yr ydym eisoes wedi cyhuddo Iddewon a Groegiaid fel ei gilydd o fod dan lywodraeth pechod.
10 Fel y mae'n ysgrifenedig:“Nid oes neb cyfiawn, nac oes un,
11 neb sydd yn deall,neb yn ceisio Duw.
12 Y mae pawb wedi gwyro, yn ddi-fudd ynghyd;nid oes un a wna ddaioni,nac oes, dim un.
13 Bedd agored yw eu llwnc,a'u tafodau'n traethu twyll;gwenwyn nadredd dan eu gwefusau,
14 a'u genau'n llawn melltith a chwerwedd.