11 Eto i gyd, cyn geni'r plant a chyn iddynt wneud dim, na da na drwg (fel bod bwriad Duw, sy'n gweithredu trwy etholedigaeth, yn dal mewn grym, yn dibynnu nid ar weithredoedd dynol ond ar yr hwn sy'n galw),
12 fe ddywedwyd wrthi, “Bydd yr hynaf yn gwasanaethu'r ieuengaf.”
13 Fel y mae'n ysgrifenedig:“Jacob, fe'i cerais,ond Esau, fe'i caseais.”
14 Beth, ynteu, a atebwn i hyn? Bod Duw yn coleddu anghyfiawnder? Ddim ar unrhyw gyfrif!
15 Y mae'n dweud wrth Moses:“Trugarhaf wrth bwy bynnag y trugarhaf wrtho,a thosturiaf wrth bwy bynnag y tosturiaf wrtho.”
16 Felly, nid mater o ewyllys neu o ymdrech ddynol ydyw, ond o drugaredd Duw.
17 Fel y dywedir wrth Pharo yn yr Ysgrythur, “Fy union amcan wrth dy godi di oedd dangos fy ngallu ynot ti, a chyhoeddi fy enw trwy'r holl ddaear.”