14 Beth, ynteu, a atebwn i hyn? Bod Duw yn coleddu anghyfiawnder? Ddim ar unrhyw gyfrif!
15 Y mae'n dweud wrth Moses:“Trugarhaf wrth bwy bynnag y trugarhaf wrtho,a thosturiaf wrth bwy bynnag y tosturiaf wrtho.”
16 Felly, nid mater o ewyllys neu o ymdrech ddynol ydyw, ond o drugaredd Duw.
17 Fel y dywedir wrth Pharo yn yr Ysgrythur, “Fy union amcan wrth dy godi di oedd dangos fy ngallu ynot ti, a chyhoeddi fy enw trwy'r holl ddaear.”
18 Gwelir, felly, fod Duw yn trugarhau wrth unrhyw un a fyn, a'i fod yn gwneud unrhyw un a fyn yn wargaled.
19 Ond fe ddywedi wrthyf, “Os felly, pam y mae Duw yn dal i feio pobl? Pwy a all wrthsefyll ei ewyllys?”
20 Ie, ond pwy wyt ti, feidrolyn, i ateb Duw yn ôl? A yw hi'n debyg y dywed yr hyn a luniwyd wrth yr un a'i lluniodd, “Pam y lluniaist fi fel hyn?”