25 Fel y mae'n dweud yn llyfr Hosea hefyd:“Galwaf yn bobl i mi rai nad ydynt yn bobl i mi,a galwaf yn anwylyd un nad yw'n anwylyd;
26 ac yn y lle y dywedwyd wrthynt, ‘Nid fy mhobl ydych’,yno, fe'u gelwir yn blant y Duw byw.”
27 Ac y mae Eseia yn datgan am Israel: “Er i bobl Israel fod mor niferus â thywod y môr, gweddill yn unig fydd yn cael eu hachub;
28 oherwydd llwyr a llym fydd dedfryd yr Arglwydd ar y ddaear.”
29 A'r un yw neges gair blaenorol Eseia:“Oni bai i Arglwydd y Lluoedd adael i ni ddisgynyddion,byddem fel Sodom,ac yn debyg i Gomorra.”
30 Beth, ynteu, a ddywedwn? Hyn, fod Cenhedloedd, nad oeddent â'u bryd ar gyfiawnder, wedi dod o hyd iddo, sef y cyfiawnder sydd trwy ffydd;
31 ond bod Israel, er iddi fod â'i bryd ar gyfraith a fyddai'n dod â chyfiawnder, heb ei gael.