17 Cwblhawyd popeth ynglŷn â'r aberth i'r Arglwydd y diwrnod hwnnw:
18 dathlwyd y Pasg ac offrymwyd yr aberthau ar allor yr Arglwydd yn unol â gorchymyn y Brenin Joseia.
19 Cadwodd yr Israeliaid oedd yn bresennol yr adeg honno y Pasg a gŵyl y Bara Croyw am saith diwrnod.
20 Ni ddathlwyd Pasg fel hwnnw yn Israel er dyddiau'r proffwyd Samuel;
21 ni chynhaliodd yr un o frenhinoedd Israel Basg tebyg i'r un a gynhaliodd Joseia a'r offeiriaid a'r Lefiaid, pobl Jwda ac Israel gyfan oedd yn digwydd preswylio yn Jerwsalem.
22 Dathlwyd y Pasg hwnnw yn y ddeunawfed flwyddyn o deyrnasiad Joseia.
23 Gwnaeth Joseia bopeth yn gywir gerbron ei Arglwydd â chalon lawn duwioldeb.