24 Ysgrifennwyd eisoes ddigwyddiadau ei ddyddiau mewn adroddiadau am y rhai a bechodd yn fwy yn erbyn yr Arglwydd ac a fu'n fwy annuwiol nag unrhyw genedl neu deyrnas arall, ac a'i tristaodd yn fawr, nes i eiriau barn yr Arglwydd ddisgyn ar Israel.
25 Ar ôl yr holl weithgarwch hwn o eiddo Joseia, digwyddodd Pharo brenin yr Aifft ddod i ryfela yn Carchemis ar lan Afon Ewffrates, ac aeth Joseia allan i'w gyfarfod.
26 Anfonodd brenin yr Aifft neges ato i ofyn: “Pam yr wyt yn ymyrryd â mi, frenin Jwda?
27 Nid yn dy erbyn di y'm hanfonwyd gan yr Arglwydd Dduw, oherwydd yn ymyl Afon Ewffrates y mae fy mrwydr. Ac yn awr y mae'r Arglwydd gyda mi; ydyw, mae'r Arglwydd gyda mi, yn fy ngyrru ymlaen. Dos yn dy ôl, a phaid â gwrthwynebu'r Arglwydd.”
28 Ond ni throdd Joseia ei gerbyd rhyfel yn ôl, ond ceisiodd ymladd ag ef, gan anwybyddu geiriau'r Arglwydd drwy enau'r proffwyd Jeremeia.
29 Aeth i frwydr yn erbyn Pharo ar wastadedd Megido. Ymosododd tywysogion hwnnw ar y Brenin Joseia,
30 a dywedodd yntau wrth ei weision, “Ewch â mi allan o'r frwydr, oherwydd fe'm clwyfwyd yn arw.” Cludodd ei weision ef yn syth o faes y gad,