9 a chynorthwyodd eu cymdogion hwy ym mhob peth, ag arian ac aur, ceffylau a gwartheg, a llawer iawn o'r rhoddion a gyflwynwyd trwy adduned gan lawer o bobl a roes eu bryd ar hynny.
10 Dug y Brenin Cyrus allan hefyd lestri sanctaidd yr Arglwydd, a gludodd Nebuchadnesar i ffwrdd o Jerwsalem a'u gosod yn nheml ei eilunod.
11 Wedi i Cyrus brenin Persia eu dwyn allan, fe'u rhoddodd i Mithridates ei drysorydd,
12 a thrwyddo ef fe'u trosglwyddwyd i Sanabassar llywodraethwr Jwdea.
13 Dyma gyfrif ohonynt: mil o gwpanau aur, mil o gwpanau arian, dau ddeg a naw o thuserau arian, tri deg o ffiolau aur, dwy fil pedwar cant a deg o rai arian, a mil o lestri eraill.
14 Trosglwyddwyd felly yr holl lestri aur ac arian, pum mil pedwar cant chwe deg a naw i gyd,
15 ac fe'u cludwyd yn ôl gan Sanabassar gyda'r bobl a ddychwelodd o'r gaethglud ym Mabilon i Jerwsalem.