36 Daeth y rhai canlynol i fyny o Thermeleth a Thelersa dan arweiniad Charaath, Adan ac Amar,
37 ond ni fedrent brofi mai o Israel yr oedd eu llinach a'u tras: teuluoedd Dalan fab Twba, a Necodan, chwe chant pum deg a dau.
38 Ac o blith yr offeiriaid honnodd y canlynol hawl i'r swydd, ond nid oedd cofnod o'u hachau: teuluoedd Obbia, Accos, Jodus, a briododd Augia, un o ferched Pharselaius,
39 a chymryd ei enw. Pan chwiliwyd yn aflwyddiannus am gofnod o'u hachau yn y rhestr, fe'u hataliwyd rhag gwasanaethu fel offeiriaid,
40 a gwaharddodd Nehemeia ac Attharias iddynt gyfranogi o'r pethau cysegredig nes y ceid archoffeiriaid yn gwisgo'r Wrim a'r Twmim
41 Y cyfanswm oedd: Israeliaid deuddeg oed a mwy, heblaw eu gweision a'u morynion, yn bedwar deg dwy o filoedd tri chant chwe deg;
42 eu gweision a'u morynion yn saith mil tri chant tri deg a saith; a'r cantorion a'r cantoresau yn ddau gant pedwar deg a phump.